Hanes Datblygiad Popeth Cymraeg
1989 Ffurfio Ymddiriedolaeth a pherswadio Cyngor Sir Clwyd i drosglwyddo adeilad swmpus yng nghanol tref Dinbych i gartrefu'r ganolfan.
1990 Codi £105,000 i adnewyddu'r adeilad.
1991 Sicrhau grant blynyddol o du'r Swyddfa Gymreig o £20,000. (Cyflogi 1.5 person.) Agor y Ganolfan yn swyddogol.
1994 Ennill gwobr arbennig Addysg Oedolion NIACE (5 allan o 95 o grwpiau trwy Brydain).
1996 Arwyddo cytundeb ffranseis gyda thri Choleg Addysg Bellach lleol - Llandrillo, Glannau Dyfrdwy a Chelyn i redeg dosbarthiadau Cymraeg yn y gymuned ar eu rhan - o Saltney ar y ffin draw i Benmaenmawr.
1997 Rhedeg y cwrs 'Accelerated Learning' Cymraeg cyntaf.
1997 Ennill grant o £187,000 o du'r Loteri Genedlaethol i adeiladu estyniad i'r Ganolfan a chyflogi mwy o staff.
1998 Sefydlu Menter Dinbych-Conwy gyda chyllid o du Bwrdd Yr Iaith, Cyngor Colwyn a chynllun Cadwyn. Cyflogi dau swyddog newydd.
1998 Ennill Gwobr Fusnes Brydeinig y 'Journal Publishing Group'.
1999 Newid ein henw i 'Popeth Cymraeg /Welsh Unlimited' a dod yn gwmni cyfyngedig elusennol.
2001 Lansio llyfr “Dulliau Dysgu Ail Iaith” yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych.
2001 Twf sylweddol yn ein niferoedd. Y tueddiad yn parhau.
2003 Gweithio ar Cariad@iaith.
2004 Gweithio ar SelebrityCariad@iaith.
2004 Agor arddangosfa barhaol ar hanes Popeth Cymraeg.
2006 Lansio CDRom "200 Words a Day Welsh".
Cael Gradd 1 mewn Arolwg Estyn.
2007 Sefydlu Canolfan Cymraeg I Oedolion Gogledd Cymru – Popeth Cymraeg yn cael ei ariannu'n uniongyrchol bellach yn hytrach na thrwy'r colegau.
2008 Agor arddangosfa Gwefr Heb Wifrau.
Rhwng 1991 a 2008 ein hincwm blynyddol yn codi o tua £30,000 i £430,000






Canolfan Iaith Clwyd 