Get Adobe Flash player

Dadawgrymeg

1.    Beth yw tarddiad Dadawgrymeg

Fe’i datblygwyd yn wreiddiol gan y Seicolegydd Bwlgaraidd Dr. Georgi Lozanov yn ôl yn y saithdegau.  Erbyn hyn mae o wedi lledu ar draws y byd.  Cymerodd yr Americanwyr y cysyniad a’i ail-fedyddio'n Accelerated Learning.

2.    Pam fod gennym ni ddiddordeb ynddo?

Y rheswm pam i ni yn ‘Popeth Cymraeg’ ymddiddori yn y dull yn y lle cyntaf oedd oherwydd bod nifer o arbenigwyr addysgiadol o'r farn ei fod yn ddull llawer mwy effeithiol o ddysgu ieithoedd na dulliau traddodiadol.  Dw i bellach wedi rhedeg sawl cwrs Dadawgrymeg Cymraeg ac mae ymateb y myfyrwyr a’u datblygiad carlamus , yn ogystal â’m cymariaethau goddrychol gyda dulliau traddodiadol yn cefnogi’r farn honno.

3.    Ym mha fodd y mae Dadawgrymeg yn wahanol i ddulliau eraill o ddysgu ieithoedd?

Amcan sylfaenol dulliau eraill yw ‘dysgu’ elfennau rhagordeiniedig iaith ‘i’ fyfyrwyr, naill ai strwythurau gramadegol neu ffwythiannau iaith.  Prif nod Dadawgrymeg yw ‘rhyddhau’ myfyrwyr o'u blociau meddyliol mewnol fel y gallant ‘draflyncu’ neu ‘gaffael’ iaith mewn modd mwy penagored, yn union fel ag y mae plant ifainc yn ei wneud.

4.    Sut mae cyrraedd y nod hwn?

Mae pedwar cam sylfaenol mewn Dadawgrymeg
A.    Dadawgrymu ac Ailawgrymu
Daw sawl myfyriwr i mewn i sefyllfa dysgu iaith ym Mhrydain gan gredu nad yw’n bosibl dysgu iaith arall.  Gall hyn fod oherwydd ffactorau cymdeithasol-ddiwylliannol ( h.y. nid ystyrrir amlieithrwydd yn rhywbeth normal yma, fel ag y mae mewn rhannau eraill o’r byd) neu oherwydd hanes  personol (h.y. cael profiad drwg o ddysgu ieithoedd yn yr ysgol).  Rhaid i’r athro Dadawgrymeg gynorthwyo’r myfyrwyr, yn raddol ac yn anymwthiol, i newid eu hunan-ddelwedd a mabwysiadu agwedd feddyliol fwy positif.
B.    Arwain y myfyrwyr i mewn i’r cyflwr meddyliol ac emosiynol priodol
Mae ymddygiad yr athro a’r defnydd o gerddoriaeth, gêmau a gweithgareddau eraill yn arwain at greu cyflwr cymunedol o ganolbwyntio ymlaciedig, di-straen, a hapus – megis pan rydych wedi llwyr ymgolli yn eich hoff ddiddordeb.
C.    ‘Llwytho’r’ isymwybod â llawer iawn o iaith
Gwneir hyn trwy gyfrwng dau ‘gyngerdd’ sy’n defnyddio cerddoriaeth Rhamantus Glasurol a Barôc, testun hirfaith ar ffurf stori estynedig lawn emosiwn ac ymylolion ar y waliau.
CH.    Tynnu’r Iaith allan o'r isymwybod
Dod â’r iaith sydd wedi’i ‘llwytho’ i’r parth ymwybodol trwy chwarae gyda'r testun, chwarae gêmau, a chanu caneuon a thrwy wneud gweithgareddau a symudiadau sy'n symbyliad i’r synhwyrau.

Dyna, wrth gwrs, sut mae plant bach yn cael eu dysgu.


Rai blynyddoedd yn ôl bum yn ddigon ffodus i fynd i Awstria i astudio o dan Dr. Lozanov a theimlaf bod y profiad hwnnw wedi cyfoethogi fy nealltwriaeth o sut y mae’r dull yn gweithio.  Ers hynny y mae Dr. Lozanov wedi bod i Ddinbych ac rwyf wedi derbyn hyfforddiant arbenigol i’m galluogi i hyfforddi tiwtoriaid eraill yn y dull.  Derbyniais hyfforddiant ychwanegol ym Mwlgaria ym Medi 2006.


Ioan Talfryn
Cyfarwyddwr Polisi a Datblygiad Popeth Cymraeg

Newyddion - Hafan

Be sy 'mlaen

Sadyrnau Siarad/Clybiau

Cysylltwch â

  • Dinbych -  01745 812287
  • Yr Wyddgrug - Frances 01352 744058
  • Llandudno - Howard 01492 641494
  • Llanrwst - Howard
  • Llansannan - Howard
  • Penmaenmawr - Howard