Get Adobe Flash player

Llawlyfr - cyflwyniad

Cyflwyniad

Croeso i chi i wersi Cymraeg efo Popeth Cymraeg. Rydym yn falch eich bod wedi dewis astudio efo ni ac yn gobeithio y gwnewch chi fwynhau’r cwrs.

Rydym yn darparu cyrsiau Cymraeg i ardaloedd yn Sir Y Fflint, Sir Ddinbych a Sir Conwy efo gwersi unwaith yr wythnos. Os ydych yn astudio cwrs dwys efo ni yn y dull dadawgrymeg rydym yn darparu cyrsiau i ardal ehangach ac yn gobeithio lledu ar draws y Gogledd yn y dyfodol agos.

Sefydlwyd ein canolfan yn Ninbych ym 1991 ac yn y blynyddoedd diwethaf rydym wedi sefydlu canolfan arall yn Llanrwst. Yn ogystal â’r canolfannau hyn mae gennym swyddog yn gweithio yn Sir Y Fflint.

Ni ydy’r unig Ganolfan yn y Gogledd sy’n arbenigo yn y dull dadawgrymeg
Fe’i datblygwyd yn wreiddiol gan y Seicolegydd Bwlgaraidd Dr. Georgi Lozanov yn ôl yn y saithdegau. Erbyn hyn mae o wedi lledu ar draws y byd. Cymerodd yr Americanwyr y cysyniad a’i ail-fedyddio'n Accelerated Learning.
Y rheswm pam i ni yn ‘Popeth Cymraeg’ ymddiddori yn y dull yn y lle cyntaf oedd oherwydd bod nifer o arbenigwyr addysgiadol o'r farn ei fod yn ddull llawer mwy effeithiol o ddysgu ieithoedd na dulliau traddodiadol.

Mae’n bwysig wrth ddysgu iaith i ymarfer cymaint ag y medrwch. Rydym yn ymwybodol o hyn ac yn darparu cyfleoedd i chi ymarfer y tu allan i’ch dosbarth mewn sesiynau sgwrs neu glybiau Cymraeg. Yn ogystal â rhain cynhelir cyrsiau bloc dros y Pasg ac yn ystod yr haf.

Gobeithio y gwnewch chi ddod o hyd i unrhyw wybodaeth sy angen arnoch yn y llawlyfr ond os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth croeso i chi’n ffonio yn unrhyw un un o’n swyddfeydd

 

Hefyd ar Gael - Llawlyfr Cymraeg i Oedolion Canolfan Gogledd Cymru : http://www.learncymraeg.org/llawlyfr

 


Newyddion - Hafan

Be sy 'mlaen

Sadyrnau Siarad/Clybiau

Cysylltwch â

  • Dinbych -  01745 812287
  • Yr Wyddgrug - Frances 01352 744058
  • Llandudno - Howard 01492 641494
  • Llanrwst - Howard
  • Llansannan - Howard
  • Penmaenmawr - Howard