Get Adobe Flash player

Llawlyfr - Asesu

Asesu , Achredu ac Arholiadau

Rydym ni fel y mwyafrif o ddarparwyr yn achredu ein cyrsiau dan adain Agored Cymru, rhan o Rwydwaith y Coleg Agored. Mae ambell i ddarparwr yn achredu drwy CBAC. Bydd y tiwtoriaid yn eich asesu yn barhaus ac fe gewch chi dystysgrif ar ddiwedd y flwyddyn i nodi sawl credyd a gawsoch chi yn ystod y cwrs. Pwrpas achredu yw cofnodi eich cynnydd wrth ddilyn y cwrs neu i gasglu ar gyfer cymhwyster. Byddwch yn ennill 3 chredyd ar gyfer pob 15 awr yr ydych chi’n astudio, sef fel arfer 12 credyd mewn blwyddyn.
Bydd cyfle os ydych chi’n dymuno i sefyll arholiad CBAC yn ogystal (ar lefel Mynediad, Sylfaen neu Ganolradd) er mwyn ennill cymhwyster ffurfiol. Bydd eich tiwtor yn dweud wrthych chi am y trefniadau.

Newyddion - Hafan

Be sy 'mlaen

Sadyrnau Siarad/Clybiau

Cysylltwch â

  • Dinbych -  01745 812287
  • Yr Wyddgrug - Frances 01352 744058
  • Llandudno - Howard 01492 641494
  • Llanrwst - Howard
  • Llansannan - Howard
  • Penmaenmawr - Howard