Llawlyfr - Iechyd a Diogelwch
Iechyd a Diogelwch
Mae Popeth Cymraeg wedi ymrwymo i gynnal amodau gwaith diogel ac iach i'w holl staff, dysgwyr ac ymwelwyr.
Bydd Popeth Cymraeg yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau ein bod yn creu amgylchedd dysgu diogel a chyfforddus i'n dysgwyr a'n bod yn cydymffurfio â gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch sydd yn unol â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y gwaith ac ati 1974.
Mae cyfrifoldeb arnoch chi i :-
- ymddwyn yn briodol bob amser rhag peryglu eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill
- roi gwybod i'ch tiwtor am unrhyw ddamweiniau neu ddigwyddiadau peryglus
- roi gwybod i'ch tiwtor am sefyllfa beryglus
- ymgyfarwyddo eich hun â'r canllawiau hyn
| < Yn ôl | Nesaf > |
|---|






Canolfan Iaith Clwyd 