Cod Ymddwyn y Dysgwyr
- Parchwch hawliau pob dysgwr i fedru gweithio mewn modd cydweithredol. Mae disgwyl i chi drin pawb â pharch heb gymryd i ystyriaeth gwahaniaeth diwylliant, anabledd, anawsterau dysgu , cyflwr meddygol, hil, cenedligrwydd, rhyw, oed, tueddfryd rhywiol, crefydd neu ddosbarth cymdeithasol.
- Cydymffurfio efo Rheolau Iechyd a Diogelwch
Gan ymddwyn mewn modd sy ddim yn eich rhoi chi neu eraill mewn perygl
Wrth beidio mynychu dosbarthiadau dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau anghyfreithlon
Wrth ddweud wrth eich tiwtor os ydych yn cymryd moddion gan eich meddyg sy'n cael effaith adweithiol arnoch chi
- Mynychwch eich dosbarth yn rheolaidd gan wneud pob ymdrech i fod ar amser
- Gadewch i ni wybod am unrhyw newidiadau yn eich manylion personol e.e. cyfeiriad neu rifau ffôn oherwydd efallai y byddwn angen cysylltu â chi yn ystod tywydd drwg neu os ydy'ch tiwtor yn sâl